Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 5
Gorffennaf 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12900
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 7 a 9. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.32
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
Dechreuodd yr eitem am 14.44
4 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.49
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Gyllidebu ar Sail Rhyw
Dechreuodd yr eitem am 16.18
6 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru
Dechreuodd yr eitem am 16.49
7 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Iechyd Menywod
Dechreuodd yr eitem am 17.25
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.04 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl cyn yr eitem nesaf. Cafodd y gloch ei chanu 10 munud cyn ailgynnull.
8 Dadl: Cyfnod 3 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu)
Dechreuodd yr eitem am 18.19
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Derbyniwyd gwelliant 1, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Derbyniwyd gwelliant 3, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 4, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 2, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ni chynigiwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.08
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2022